Mae ‘rhyddid y fwrdeistref sirol’ wedi ei roi yn swyddogol i Glwb Pêl-droed Wrecsam a’i berchnogion Rob McElhenney a Ryan Reynolds mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref ar Ddydd Llun y Pasg.
Mae’r anrhydedd yn gydnabyddiaeth o hanes hir a balch y clwb, a’r effaith anhygoel y mae’r ddau berchennog wedi ei gael o ran helpu i hyrwyddo Wrecsam ar draws y byd.
Roedd Rob a Ryan draw i wylio’r gêm dyngedfennol yn erbyn y gwrthwynebwyr Notts County, sy’n golygu fod Dydd Llun y Pasg yn gyfle delfrydol i ffurfioli’r broses.
Dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Brian Cameron:“Fel maer presennol Wrecsam a chefnogwr Wrecsam ar hyd fy oes rydw i wrth fy modd fod y clwb, a Rob a Ryan, yn derbyn rhyddid y fwrdeistref. “Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn un o’r clybiau pêl-droed hynaf yn y byd ac yn chwarae yn stadiwm bêl-droed rhyngwladol hynaf y byd ac mae’n parhau i gynnal gemau rhyngwladol. “Mae’r cefnogwyr wedi cael llawer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau. “Un o fy atgofion gorau o wylio Wrecsam oedd pan wnaethom ni guro Arsenal yng Nghwpan yr FA 1991/92, gydag Arsenal yn sgorio gyntaf drwy Alan Smith, Micky Thomas yn ei gwneud yn gyfartal a Steve Watkin yn sgorio’r gôl fuddugol. “Rydym yn ffodus iawn o fod â Rob a Ryan fel Cyd-gadeiryddion erbyn hyn yn y clwb, sy’n golygu fod yna gyfnod cyffrous iawn o flaen y clwb a Wrecsam – dewch i ni fwynhau’r daith.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae cenedlaethau wedi mwynhau gwylio pêl-droed yn y Cae Ras ac rydym ni’n gwybod ers cryn amser pa mor arbennig yw Wrecsam.
“Gyda’r diddordeb rhyngwladol cynyddol yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam mae’n wych i fod yn gallu dangos i’r byd pa mor arbennig yw Wrecsam a phobl Wrecsam.
“Pêl-droed yw gwir galon ein cymuned ac mae yna gefnogaeth anhygoel wedi bod i’r clwb bob amser, ac mae’n wych i weld fod nifer y cefnogwyr yn parhau i dyfu.
“Ar y cae ac oddi arno, mae Rob a Ryan wedi bod yn llysgenhadon anhygoel i Glwb Pêl-droed Wrecsam, Wrecsam a Chymru.
“Fe ddaethant yn berchnogion ar y clwb yn ystod covid, ac mae’n deg dweud fod eu hymdrechion a’u brwdfrydedd ers hynny wedi bod mor heintus – dyma’r amser iawn i gydnabod hynny.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae statws newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam fel clwb pêl-droed a gydnabyddir yn fyd-eang wedi cael effaith aruthrol ar y gymuned.
“Mae’n anarferol nawr i weld unrhyw un mewn copi o grys nad yw’n grys Wrecsam.
“Mae yna falchder cymunedol go iawn yma, mae pêl-droed yn bendant yn rhan fawr o’r hyn sy’n gyrru Wrecsam.
“Mae’r perchnogion yn ein helpu ni i hyrwyddo Wrecsam ar draws y byd fel lle i ymweld ag ef, a rhoi rhyddid y ddinas i’r clwb pêl-droed a’r perchnogion yw ein ffordd ni o ddweud diolch.”
Lluniau isod o’r ymweliad â Neuadd y Dref: